Adduned Cyflogwr - Rhaglen Datblygu Gweithluoedd
Mae Adduned Cyflogwr yn rhan o strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i wella sgiliau yn y gweithle; gan gydnabod bod enw da cwmni, ei gystadleurwydd a’i ddyfodol yn dibynnu ar ansawdd ei weithwyr.
Beth yw’r Adduned Cyflogwr?
Mae’r Adduned Cyflogwr wedi ei gynllunio yn sbesiffig i gynorthwyo eich busness drwy helpu eich gweithlu i wella eu sgiliau craidd. Ymhellach, mae’r rhaglen wedi ei ariannu yn gyfan gwbl felly does yna ddim cost i chi.
Beth yw manteision yr Adduned Cyflogwr?
O dan yr Adduned Cyflogwr, mae gan eich gweithwyr mynediad i gyfres o gymhwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC) mewn llythrennedd, iaith (‘ESOL’) a rhifedd yn rhad ac am ddim. Medr cynyddiant mewn cymhwysedd sgiliau hanfodol arwain i:
· Wella ansawdd
· Cynyddu cywirdeb
· Gwella gwasanaethau i gwsmeriaid
· Gwell perfformiad tîm
· Cynyddu menter ac arloesedd
Sut gall HAD eich cynorthwyo chi?
Drwy ddefnyddio ein profiad ac arbenigedd byddwn yn gweithio gyda chi i ddatblygu Cynllun Dysgu Sefydliad. Yn gweithio yn agos gydag eich cyswllt un-pwrpas yn HAD, bydd eich cynllun dysgu wedi ei gynhyrchu yn unol ag anghenion sbesiffig eich sefydliad.
Gyda HAD mae’r hyfforddiant yn hyblyg. Byddwn yn trefnu sesiynau ar adegau ac mewn lleoliadau sydd yn gyfleus i’ch sefydliad, yn cynnwys opsiynau min nos/nosweithiau a phenwythnosau – yn eich adeilad chi neu yn ein cyfleusterau hyfforddiant ni.
Mae’r rhaglen yma wedi cael ei gyllido yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth y Cynulliad
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
Louise Lawrence ar 01286 677275 neu anfonwch ebost i louise@adt-ltd.com
