Cyflogwyr

 

Pam hyfforddi eich gweithlu?

 

 

Drwy roi hyfforddiant i'ch gweithlu, yr ydych yn eu helpu i ddatblygu, yn cynnig llwybr gyrfa ac yn ennill eu cymhelliad a'u hymroddiad. Gall gweithlu sydd wedi'i hyfforddi a'i ddatblygu helpu eich busnes i gynnal ei safonau uchel a helpu i greu diwydiannau llwyddiannus.

Bydd pob ymgeisydd yn cael eu hasesu yn y gweithle yn ystod ymweliadau sydd wedi ei gynllunio ar gyfer holl agwedd o’r prentisiaeth.

 

Ffrydiau cyllido sydd ar gael:

NB: Dim ond i ddysgwyr statws cyflogedig y mae'r ffrydiau cyllido canlynol ar gael.

Prif ffrydiau cyllido'r Llywodraeth yw:

  • Dysgu cyn presentisiaeth
  • Presentisiaethau Lefel 2 a 3
  • Diploma sgiliau modern

 

Ymrwymiad y Cyflogwr:

Mae'r ffrydiau cyllido sydd ar gael yn golygu bod y cyflogwr yn gallu cael gafael ar hyfforddiant yn ddi-dâl i'w weithwyr. Pan fydd Hyfforddiant Arfon Dwyfor yn recriwtio dysgwyr i ymuno â rhaglen hyfforddi, mae'n rhaid i'r cyflogwr â'r dysgwr lofnodi Cytundeb Dysgu. Mae hyn yn nodi cyfrifoldebau unigol y dysgwr, y cyflogwr, Hyfforddiant Arfon Dwyfor a'r corff cyllido. Mae'r cyflogwr yn ymrwymo i sicrhau bod y dysgwr yn cael ei gefnogi'n llawn yn ystod y rhaglen ddysgu a'i fod yn cael amser i weld ei gydlynydd Hyfforddiant (yn Hyfforddiant Arfon Dwyfor) bob 2/3 wythnos.

 

Prentisiaethau:

Mae'r dyfarniadau hyn ar gael i bob dysgwr o bob oed. Maent yn cynnwys fframwaith o gymwysterau. Mae'r fframweithiau ar gyfer pob maes galwedigaethol yn wahanol, ond bydd y cymhwyster NVQ o hyd ar Lefel 2 neu Lefel 3. Mae'r amser a ganiateir ar y cynllun yn amrywio o un rhaglen i'r llall. Rhoddir gwybodaeth lawn am hyn ar ddechrau'r rhaglen.

Fframwaith, felly, yw grwp o gymwysterau ardystiedig sy'n cynnwys NVQ, Sgiliau Allweddol a Thystysgrif Dechnegol.

 

Diploma Sgiliau Modern

Mae'r Ddiploma Sgiliau Modern wedi'i chynllunio fel bod dysgwyr yn ennill cymhwyster lefel 4. Nid oes unrhyw fframwaith pendant ar ei chyfer, ond gofynnir i ddysgwyr gyflawni NVQ Lefel 4 a chwblhau dwy uned cymhwyster Lefel 4 ychwanegol.

 

Cymwysterau Galwedigaethau Cenedlaethol (NVQ)

Mae cymwysterau NVQ yn seiliedig ar y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol sy'n berthnasol i bob maes cymhwysedd galwedigaethol. Maent yn cael eu hysgrifennu ar y cyd â'r cyngor sgiliau sy'n gyfrifol am bob diwydiant, ac yn cael eu hawdurdodi a'u cymeradwyo gan yr Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm.

Mae cymwysterau NVQ yn cael eu rhannu'n unedau cymhwysedd. Mae pob uned yn disgrifio rhan allweddol o swydd rhywun. Ym mhob NVQ, mae unedau 'craidd' neu 'orfodol' sydd i'w cyflawni gan bob dysgwr ynghyd â dewis o opsiynau uned y gellir eu dewis yn benodol i gydfynd â swyddi unigol. Mae cymwysterau NVQ yn cael eu dysgu yn y gweithle a mesurir tystiolaeth o gymhwysedd ar sail sefyllfaoedd naturiol sy'n codi yn y gweithle. 

 

Sgiliau Allweddol:

Mae y rhan fwyaf o'r Fframweithiau yn cynnwys Sgiliau Allweddol ar y lefel sy'n addas i'r dysgwr. Mae'r safonau hyn yn sicrhau bod y dysgwr yn defnyddio sgiliau cyfathrebu a'i fod yn gallu defnyddio sgiliau rhif i'r lefel sy'n angenrheidiol ar gyfer ei swydd.

Cyn belled ag y bo'n bosibl, mae gwaith Sgiliau Allweddol yn cael ei fapio yn ôl y gwaith a wneir ar gyfer y cymhwyster NVQ, a rhoddir hyfforddiant a chefnogaeth lawn fel bod dysgwyr yn gallu cyrraedd y lefel sy'n ofynnol.

 

Tystysgrifau Technegol:

Bellach, mae y rhan fwyaf o'r Fframweithiau yn gofyn bod dysgwyr yn ennill tystysgrif dechnegol. Mae'r tystysgrifau hyn yn ffordd o brofi sgiliau a gwybodaeth y dysgwr ac yn rhoi canlyniad ardystiedig. Mae'r dysgwr yn derbyn adnoddau a chefnogaeth i'w baratoi ar gyfer y profion, a chynhelir y profion yn y gweithle ar adegau a drefnir ymlaen llaw.

Am fwy o wybodaeth fanwl am y Fframweithiau, gweler ein tudalen dysgu seiliedig ar waith.